Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.40 - 10.04 |
|
|||
|
|
||||
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Llyr Gruffydd AC Mick Antoniw AC (Cadeirydd) Mark Isherwood AC Eluned Parrott AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Owain Roberts (Swyddog) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Eluned Parrott AC i'r cyfarfod yn dilyn ei hetholiad i'r Pwyllgor ar 30 Medi 2014, a nodwyd ei ddiolch i Kirsty Williams AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
3 Enwebu Aelod Pwyllgor o dan Adran 10.2 o'r Weithdrefn Gwynion
3.1 Enwebwyd Mark Isherwood AC i weithredu yn unol ag Adran 10.2 o'r weithdrefn gwynion.
4 Adroddiad Blynyddol 2014 y Grŵp Trawsbleidiol
4.1 Nodwyd yr adroddiad.
5 Cofrestru a Datgan Buddiannau
5.1 Nododd yr Aelodau'r llythyr a'r adroddiad gan y Llywydd ynghylch Cofrestru a Datgan Buddiannau'r Aelodau a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ymateb i'r perwyl hwnnw, yn ogystal â darparu amserlen ar gyfer pryd yr hoffai'r Pwyllgor weld y Rheolau Sefydlog newydd yn dod i rym.
5.2 Trafododd Y Pwyllgor y canllawiau diwygiedig a chytunwyd i gyflwyno'r adroddiad i'w grwpiau ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar 12 Mai.
5.3 Nododd y Pwyllgor y newidiadau arfaethedig i'r Cod Ymddygiad.
5.4 Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn dychwelyd i roi'r penderfyniad terfynol ynghylch yr eitemau hyn yn y cyfarfod ar 12 Mai. Yn dilyn hynny, bydd y clercod yn gofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn er mwyn i'r materion gael eu trafod a chynnal pleidlais arnynt.